Mark 10:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dechreawdd Petr ddywedyt wrthaw, Nycha, ys gadawsam ni bop peth, ac ath ddilynesam di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dechreuodd Petr ddywedyd Wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom Di.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, “Dyma ni wedi gadael popeth a’th ddilyn di.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ddilynasom di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Pedr yn dechrau dweud, “Ond dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreuodd Pedr ddweud wrtho, "Dyma ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ganlyn di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, Wele, nyni ydym wedi gadael pob peth, a'th ganlyn di.