Mark 10:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’r ny’s d erbyn ar y canvet yr awrhon y pryd hyn: tai, a’ broder, a’ chwioredd, a’ mamae, a’ phlant, a’ thiredd y gyd ac erlidiae, ac yn yr oes a ddaw vuchedd dragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o’m hachos I a’r efengyl, na dderbyn y can cymmaint yn awr, y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mammau, a phlant, a thiroedd, ynghydag erlidiau; ac yn y byd y sy’n dyfod fywyd tragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r ni dderbyn gann cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn gartrefi, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, gydag erlidiau, ac yn yr oes a ddaw fywyd tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yn derbyn can gwaith cymaint yn y bywyd yma! Bydd yn derbyn cartrefi, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a thiroedd — ac erledigaeth ar ben y cwbl. Ond yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
na chaiff dderbyn ganwaith cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn dai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, ynghyd ag erledigaethau, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r ni dderbyn càn cymmaint yn awr y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd âg erlidiau; ac yn y byd sydd yn dyfod fywyd tragywyddol.