Mark 10:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddyvvedyt, Nycha, ni yn escen d i Gaerusalem a’ Map y dyn a roddir at yr Archoffeirieit, ac at y Gwyr‐llen, ac wynt y barnant ef i angae, ac y rhoddant ef at y Cenetloedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, myned i fynu i Ierwshalem yr ydym, a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion; a chondemniant Ef i farwolaeth, a thraddodant Ef i’r Cenhedloedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid ac i’r ysgrifenyddion, a chondemniant ef i farwolaeth, a thraddodant ef i’r cenhedloedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i'r archoffeiriaid, ac i'r ysgrifenyddion; a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem,” meddai, “Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'r prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw'n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, ac yna'n fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem; a Mab y Dyn a draddodir i'r Arch‐offeiriaid, ac i'r Ysgrifenyddion; a hwy a'i coll‐farnant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant i'r Cenedloedd.