Mark 10:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vvy y gwatworant ef, ac ei yscyrsiant, ac y boyrant arn aw, ac ei lladdant: eithyr y trydyð dydd y cyvyt ef drachefyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwatwarant Ef, a phoerant Arno, a fflangellant Ef, a lladdant Ef; ac wedi tridiau yr adgyfyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gwatwarant ef, a phoerant arno, a ffrewyllant ef, a lladdant; ac ymhen tridiau fe atgyfyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a'i gwatwarant ef, ac a'i fflangellant, ac a boerant arno, ac a'i lladdant: a'r trydydd dydd yr atgyfyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y rheiny yn gwneud sbort ar fy mhen, yn poeri arna i, yn fy chwipio a'm lladd. Ond yna, dau ddiwrnod wedyn, bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gwatwarant ef, a phoeri arno a'i fflangellu a'i ladd, ac wedi tridiau fe atgyfoda."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a'i gwatwarant ef, ac a boerant arno, ac a'i fflangellant, ac a'i lladdant, ac wedi tridiau, efe a adgyfyd.