Mark 10:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wythe a ddywed e sont wrthaw, Caniata i ni gael eistedd vn ar dy ddeheu lavv, a’r llall ar dy lavv aseu yn dy ’ogoniant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ddywedasant Wrtho, Dyro i ni, i un eistedd ar Dy ddeheulaw, a’r llall ar yr aswy, yn Dy ogoniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedasant hwythau wrtho, “Dyro i ni gael eistedd un ar dy ddeheulaw ac un ar dy aswy yn dy ogoniant.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a'r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni eisiau cael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedasant wrtho, "Dyro i ni gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy ogoniant."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddywedasant wrtho, Dyro i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, ac un ar dy aswy, yn dy Ogoniant.