Mark 10:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddynot wrthynt, Ny wyddoch pa beth a erchwch. A ellwch‐ vvi yfed o’r cwppa n yr yfa vi o hanavv, a’ch bedyddio a’r betydd y betyddier vi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nis gwyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwppan yr wyf Fi yn ei yfed; neu eich bedyddio â’r bedydd y bedyddir Fi ag ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, “Ni wyddoch beth a ofynnwch. A ellwch yfed y cwpan a yfaf fi? neu eich bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o'r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a'ch bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i ag ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r un gwpan chwerw â mi, neu gael eich bedyddio â'r un bedydd â mi?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Iesu wrthynt, "Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, neu gael eich bedyddio 'r bedydd y bedyddir fi ag ef?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei geisio. A ellwch chwi yfed y cwpan a yfwyf fi, neu eich bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i âg ef?