Mark 10:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
any d eistedd ar vy llavv ddeau ac ar fy llavv aseu, ny d yw vau ei roddy, any d ei roi a vvnair ir ei y paratowyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond eistedd ar Fy neheulaw, neu ar yr aswy, nid yw Fy eiddo i’w roddi, ond i’r rhai y darparwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond eistedd ar fy neheulaw neu ar fy aswy, nid yw eiddof fi ei roi, eithr i’r rhai y darparwyd y mae.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond eistedd ar fy neheulaw a'm haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i'r rhai y darparwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi eu cadw i bwy bynnag mae Duw wedi eu dewis.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond eistedd ar fy llaw dde neu ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i'w roi; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond eistedd ar fy neheulaw neu ar fy aswy, nid eiddof fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu.