Mark 10:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu y galwodd wy ataw, ac a ddyvot yddynt, Chvvi wyddoch mai yr ei ’sy hoff ganthynt lywo draethu ymplith y Cenedloedd y h arglwyddiaethant wy, a’r sawl ’sy vawrion yn ey plith, a arverant o awdurtot arn add ynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi eu galw hwynt Atto, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gwyddoch fod y rhai y tybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A galwodd yr Iesu hwynt ato, a dywed wrthynt, “Chwi wyddoch fod y rhai’r ystyrrir eu bod yn llywodraethu ar y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a’u mawrion yn awdurdodi arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; a'u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod sut mae'r pwysigion sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn — maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd Iesu hwy ato ac meddai wrthynt, " Gwyddoch fod y rhai a ystyrir yn llywodraethwyr ar y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwu375?r mawr hwy yn dangos eu hawdurdod drostynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywed wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a gyfrifir eu bod yn llywodraethu ar y Cenedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; ac y mae eu Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt: