Mark 10:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐a’ Map y dyn ny ðaeth i gahel gweini iddo, anyd i weini, a’ rhoi ei einioes yn brid werth dros lawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fod yn gyntaf, fydd was i bawb; canys Mab y Dyn hefyd ni ddaeth i’w wasanaethu, eithr i wasanaethu, ac i roi Ei einioes yn bridwerth dros lawer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys Mab y dyn yntau ni ddaeth i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ni ddaeth hyd y nod Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth yn lle llawer.