Mark 10:46 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yd aethant i h Iericho: ac val yð oeð ef yn myned allan o h Iericho gyd ai ddiscipulon, a’ mintai vawr, Bartimaeus vap Timaeus dyn dall a eisteddai ar vin y ffordd yn cardota.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daethant i Iericho: ac wrth fyned allan o Hono Ef o Iericho, ac o’i ddisgyblion, ac o dyrfa fawr, mab Timëus, Bartimëus, cardottyn dall, oedd yn eistedd ar ymyl y ffordd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A deuant i Iericho. Ac wrth iddo fynd allan o Iericho, ef a’i ddisgyblion a chryn dyrfa, mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, oedd yn eistedd ar fin y ffordd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe a'i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimeus ddall, mab Timeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n cyrraedd Jericho. Roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu a'i ddisgyblion allan o'r dref, a dyma nhw'n pasio heibio dyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd — Bartimeus oedd enw'r dyn (hynny ydy, ‛mab Timeus‛).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant i Jericho. Ac fel yr oedd yn mynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion a chryn dyrfa, yr oedd mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, yn eistedd ar fin y ffordd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddeuant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, a'i Ddysgyblion, a thyrfa luosog, mab Timëus, Bartimëus, cardotyn dall, a eisteddai ar ymyl y ffordd.