Mark 10:47 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glypu mai ’r Iesu o Nazaret oedd yno, ef a ddechreuawdd lefain a’ dywedyt, Iesu vap Dauid trugarha wrthyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi clywed mai Iesu y Natsaread ydoedd, dechreuodd waeddi a dywedyd, Mab Dafydd, Iesu, tosturia wrthyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dywedyd, “Fab Dafydd, Iesu, tosturia wrthyf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu mai'r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddeallodd mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dweud, "Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu, Iesu o Nazareth ydyw, efe a ddechreuodd waeddi a dywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.