Mark 10:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ llawer y ceryddent ef, er iddo dewi: yntef a lefai yn vwy o lawer, Ha vap Dauid, trugarha, wrthyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’i ddwrdio ef a wnaeth llawer, am dewi o hono; ond efe, llawer mwy y gwaeddodd, Fab Dafydd, tosturia wrthyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhybuddiai llawer ef i dewi. Ond mwy o lawer y gwaeddai yntau, “Fab Dafydd, tosturia wrthyf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llawer a'i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cau dy geg!” meddai rhai o'r bobl wrtho. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd llawer yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd yntau'n gweiddi'n uwch fyth, "Fab Dafydd, trugarha wrthyf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llawer a'i ceryddasant ef, fel y tawai: ond efe a waeddodd yn fwy o lawer, O Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf.