Mark 10:49 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno gorsefyll o’r Iesu, a’ gorchmyn y ’alw ef: ac wy e alwasant y dall, gā ddywedyt wrthaw, Cymer gyssyr: cyfod, mae ef yn dy ’alw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi sefyll, yr Iesu a ddywedodd, Galwch ef: a galwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Bydd hyderus; cyfod; dy alw y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A safodd yr Iesu, a dywedodd, “Gelwch arno.” A galwant ar y dall, gan ddywedyd wrtho, “Cymer galon; cyfod; y mae’n galw arnat.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n stopio, “Dwedwch wrtho am ddod yma,” meddai. Felly dyma nhw'n galw'r dyn dall, “Hei! Cod dy galon! Mae'n galw amdanat ti. Tyrd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd Iesu, a dywedodd, "Galwch arno." A dyma hwy'n galw ar y dyn dall ac yn dweud wrtho, "Cod dy galon a saf ar dy draed; y mae'n galw arnat."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a safodd, ac a ddywedodd, Gelwch ef. Ac y maent yn galw y dall, ac yn dywedyd wrtho, Cymmer galon: cyfod: y mae efe yn dy alw di.