Mark 10:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepodd yr Iesu, ac y dyvot wrthynt, Am galedrwydd eich calon chvvi ydd escriuenawð ef y gorchymyn hwn ychwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon-galedwch yr ysgrifenodd i chwi y gorchymyn hwn:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Oherwydd eich calon-galedwch chwi yr ysgrifennodd i chwi’r gorchymyn yna.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wyddoch chi pam ysgrifennodd Moses y ddeddf yna?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai Iesu wrthynt, "Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, I gwrdd a'ch calon‐galedwch yr ysgrifenodd efe i chwi y gorchymyn hwn: