Mark 10:50 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y tavlodd ef ei gochyl ymaith, ac a gyvodes ac a ddaeth at yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe, wedi taflu ymaith ei gochl, ac wedi neidio i fynu, a ddaeth at yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thaflodd yntau ei fantell, a llamodd i fyny, a daeth at yr Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith, a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly taflodd y dyn dall ei glogyn i ffwrdd, neidio ar ei draed a mynd at Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Taflodd yntau ei fantell oddi arno, llamu ar ei draed a dod at Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe wedi taflu ymaith ei gochl, a neidiodd i fyny, ac a ddaeth at yr Iesu.