Mark 10:51 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu ’atepodd ac a ddyuot wrthaw, Beth a ewyllysy wneythy d o hanof yty? A’r dall a ddyuot wrthaw, Arglwydd, cael o hanof vy-golwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb iddo, yr Iesu a ddywedodd, Pa beth a ewyllysi ei wneuthur o Honof i ti? A’r dall a ddywedodd Wrtho, Rabboni, caffael o honof fy ngolwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd yr Iesu ef, a dywedodd, “Beth a fynni i mi ei wneuthur iti?” A’r dall a ddywedodd wrtho, “Rabbwni, cael fy ngolwg yn ol.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael ohonof fy ngolwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ga i wneud i ti?” “Rabbwni,” atebodd y dyn dall, “Dw i eisiau gallu gweld.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyfarchodd Iesu ef a dweud, "Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?" Ac meddai'r dyn dall wrtho, "Rabbwni, y mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn l."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fyni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Rabboni, cael fy ngolwg.