Mark 10:52 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot yr Iesu wrthaw, Dos ffwrdd, dy ffydd ath iachaodd, Ac yn y man y cafas ei ’olwc, ac y canlynodd ef yr Iesu rhyd y ffordd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd; ac yn uniawn y cafodd efe ei olwg; a chanlynodd Ef ar y ffordd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrtho, “Dos, dy ffydd a’th iachaodd.” Ac yn y fan fe gafodd ei olwg, ac fe’i dilynai ef ar y ffordd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd Iesu, “Dos, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrtho, "Dos, y mae dy ffydd wedi dy iachu di." A chafodd ei olwg yn l yn y fan, a dechreuodd ei ganlyn ef ar hyd y ffordd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: y mae dy ffydd wedi dy iachâu. Ac yn ebrwydd efe a gafodd ei olwg, ac a'i canlynodd ef ar hyd y ffordd.