Mark 10:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Achos hyn y gad dyn ei dad a’ ei vam, ac a lyn wrth ei wreic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a bydd y ddau yn un cnawd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
am hyn y gedy dyn ei dad a’i fam,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn cael ei uno â'i wraig,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O achos hyn y gâd dyn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;