Mark 11:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Gwedy yðyn ddy nesay i Caerusalem, i Bethphage a’ Bethania hyd ym mynyth olivar yd anvones ef ddau o ei ddiscipulon,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan nesaent i Ierwshalem, i Bethphage a Bethania, at fynydd yr Olewydd, danfonodd ddau o’i ddisgyblion,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan neshânt at Gaersalem, at Fethphage a Bethania ger mynydd yr Olewydd, fe enfyn ddau o’i ddisgyblion,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem. Dyma Iesu'n dweud wrth ddau o'i ddisgyblion,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem, at Bethffage a Bethania, ger Mynydd yr Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan y maent yn agoshâu i Jerusalem, i Bethphage, a Bethania, at Fynydd yr Olew‐wydd, y mae efe yn danfon dau o'i Ddysgyblion,