Mark 11:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wrth ’weled fficuspren o bell, ac iddo ddail, ef aeth y edrych a gaffei ddim arnaw: a’ phan ddeuth ataw, ny chafas ef ddim yn amyn dail: can nad oedd hi amser bot fficus eto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gweled ffigysbren o hirbell, a dail arno, daeth i edrych a gaffai ysgatfydd rywbeth arno: ac wedi dyfod atto, ni chafodd ddim oddieithr dail, canys nid oedd amser ffigys.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi gweled ffigyswydden o hirbell ag arni ddail, fe aeth i weled tybed a gaffai ddim arni; ac wedi dyfod ati ni chafodd arni ddim ond dail, canys nid oedd yn amser ffigys.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd goeden ffigys ddeiliog yn y pellter, ac aeth i edrych rhag ofn bod ffrwyth arni. Ond doedd dim byd ond dail, am ei bod hi ddim yr adeg iawn o'r flwyddyn i'r ffigys fod yn barod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd o bell ffigysbren ac arno ddail, aeth i edrych tybed a gi rywbeth arno. A phan ddaeth ato ni chafodd ddim ond dail, oblegid nid oedd yn dymor ffigys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren âg arno ddail, efe a aeth, os caffai, o ddygwydd, ryw gymmaint arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond dail: canys nid oedd dymhor ffigys.