Mark 11:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hwy a ðaethant i Caerusalem, a’r Iesu aeth ir Templ, ac a ddechreuawdd davly allan yr ei oeddynt yn gwerthy ac yn prynu yn y Templ, ac a dd ymchwelawdd i lawr vyrddae yr ariam‐newidwyr a’ chadeiriae yr ei oedd yn gwerthy colombenot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daethant i Ierwshalem; ac wedi myned i mewn i’r deml, dechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac y rhai a brynent yn y deml; a byrddau y newidwyr arian, a chadeiriau y rhai yn gwerthu’r colommenod, a ddymchwelodd Efe;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A deuant i Gaersalem. Ac wedi iddo fynd i mewn i’r deml dechreuodd fwrw allan y gwerthwyr a’r prynwyr yn y deml; a byrddau’r cyfnewidwyr arian a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod a ddymchwelodd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A'r Iesu a aeth i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau'r arianwyr, a chadeiriau'r gwerthwyr colomennod:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem, aeth i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i'r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn dyfod i Jerusalem; ac wedi myned i'r Deml, efe a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu; ac efe a ddymchwelodd fyrddau y cyfnewidwyr arian, a chadeiriau y gwerthwyr colomenod: