Mark 11:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef ei dyscawdd, gan ddywedyt wrthynt, A ny d escrivenwyt, Y tuy meu vi, tuy ’r gwedd io y gelwir i’r oll Genetloedd? a’ chwi theu ei gwnaethoch yn ’ogof llatron.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dysgu yr oedd Efe, a dywedodd wrthynt, Onid ysgrifenwyd, “Fy nhŷ I, tŷ gweddi y gelwir ef i’r holl genhedloedd;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuodd ddysgu, a dywedyd wrthynt “Onid yw’n ysgrifenedig, Fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw'n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd? ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dechreuodd eu dysgu, “Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.’? Ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, "Onid yw'n ysgrifenedig: 'Gelwir fy nhu375? i yn du375? gweddi i'r holl genhedloedd, ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron'?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a'u dysgodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid yw yn ysgrifenedig, Gelwir fy Nhŷ i yn Dŷ Gweddi i'r holl genedloedd; ond yr ydych chwi wedi ei wneuthur ef yn Ogof Yspeilwyr.