Mark 11:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ei clybu ’r Gwyr‐llen, a’r Archoffeirieit, ac a geisiesont po’ð y collent ef: can ys ofnent ef, o bleit bot yr oll dyrva yn aruthro gan ei athraweth ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. A chlywodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion; a cheisiasant pa fodd y difethent Ef, canys ofnent Ef, canys bu aruthr gan yr holl dyrfa o herwydd Ei ddysgad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a cheisient pa fodd y difethent ef; canys ofnent ef, oblegid yr holl dyrfa a synnai at ei ddysgeidiaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ysgrifenyddion a'r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith beth ddwedodd e, a mynd ati i geisio dod o hyd i ffordd i'w ladd. Roedden nhw'n ei weld yn fygythiad i'w hawdurdod, am fod y bobl wedi eu syfrdanu gan ei eiriau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a glywsant, ac a geisiasant pa fodd y dyfethent ef; canys yr oeddynt yn ei ofni ef, oblegyd yr holl dyrfa a darawyd â syndod at ei ddysgeidiaeth ef.