Mark 11:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yn wir y dywedaf y chwi, mai pwy pynac a ddyweto wrth y mynyth hwn, Ymgymer ymaith a’ bwrw dy hun i’r mor, ac na amheuet yn ei galon, any d credy y dervydd y pethe hyny a ddyuot ef, beth bynac ar a ddywait, a vydd yddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir y dywedaf wrthych, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Cymmerer di i fynu a’th fwrw i’r môr, ac nad ammeuo yn ei galon, eithr a gredo y bydd i’r hyn a ddywaid efe ddigwydd, bydd iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn wir, meddaf i chwi, pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, ‘Coder di, a bwrier di i’r môr,’ ac nid amheuo yn ei galon, eithr credu y daw’r hyn a ddywed i ben, fe fydd iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i'r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Credwch chi fi, does ond rhaid i chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr’ — heb amau o gwbl, dim ond credu y gwnaiff ddigwydd — a bydd yn digwydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, 'Coder di a bwrier di i'r mr', heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yn wir meddaf i chwi, Pwy bynag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Cyfoder di, a bwrier di i'r môr, ac nid amheuo yn ei galon, ond a gredo fod yr hyn a ddywed yn dyfod i ben, efe a fydd iddo.