Mark 11:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd paam y dywedaf wrthych, Bethae bynac ar a archoch wrth weddiaw, credwch y d erbyniwch, ac e vydd parot y chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn y dywedaf wrthych, Pob peth, cynnifer ag y gweddïwch ac y gofynwch am dano, credwch y derbyniasoch, a byddant i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, meddaf i chwi, beth bynnag oll a weddïoch ac a ofynnoch amdano, credwch i chwi ei gael, ac fe fydd i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n dweud wrthoch chi, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu y byddwch yn ei dderbyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny meddaf i chwi, pa bethau bynag oll y gweddiwch am danynt, ac a geisiwch, credwch y derbyniasoch hwynt, a byddant i chwi.