Mark 11:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
And pan safoch, a’ gweddiaw, maddeuwch, a’s bydd genych ddim yn erbyn neb, val y bo ’ich Tad yr hwn sy yn y nefoedd vaddae i chwi theu eich cam‐weddae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan safoch dan weddïo, maddeuwch o bydd genych ddim yn erbyn neb, fel y bo i’ch Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, faddeu i chwi eich camweddau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A pha bryd bynnag y safoch i weddïo, maddeuwch o bydd gennych ddim yn erbyn neb, fel y maddeuo’ch Tad sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond cyn gweddïo'n gyhoeddus, rhaid i chi faddau i unrhyw un sydd wedi gwneud rhywbeth yn eich erbyn. Wedyn bydd eich Tad yn y nefoedd yn maddau'ch pechodau chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan fyddwch ar eich traed yn gweddo, os bydd gennych rywbeth yn erbyn unrhyw un, maddeuwch iddynt, er mwyn i'ch Tad sydd yn y nefoedd faddau i chwithau eich camweddau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan yr ydych yn sefyll i weddio, maddeuwch, os oes genych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tâd yr hwn sydd yn y Nefoedd i chwithau eich camweddau.