Mark 11:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac y dywedynt wrthaw, Wrth pa awdurtat y gwnai di y pethe hyn? a’ phwy roes y ti yr auturtat hon, y’n y wnayti y pethae hyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedasant Wrtho, Trwy ba awdurdod y mae’r pethau hyn a wnai? Neu, pwy a roddes i Ti yr awdurdod hon fel mai’r pethau hyn a wnait?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac meddent wrtho, “Drwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn? neu bwy roes i ti’r awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gofyn iddo “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac meddent wrtho, "Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yn dywedyd wrtho, Trwy ba fath awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn?