Mark 11:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a atepawdd ac a ddyuot wrthynt, Minef a ovynaf vn‐peth i chwi the, ac atepwch vi, a’ dywedaf ywch’ wrth pa awdurtot y gwnaf y pethae hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf i chwi un gair; ac attebwch Fi, a dywedaf wrthych, Trwy ba awdurdod mai’r pethau hyn a wnaf?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Mi ofynnaf i chwi un gair, ac atebwch fi, a dywedaf wrthych trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; ac atebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Atebwch chi hwn, ac ateba i'ch cwestiwn chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrthynt, "Fe ofynnaf un peth i chwi; atebwch fi, ac fe ddywedaf wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau i chwithau un gofyniad, ac atebwch fi; a minau a ddywedaf i chwi trwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn: