Mark 11:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a veddyliesont ynthyn ehunain, gan ddywedyt, A’s dywedwn O’r nef, ef a ddywait, Paam gan hyny na chredech ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebwch Fi. Ac ymresymmasant â’u gilydd gan ddywedyd, Os dywedwn O’r nef, dywaid Efe wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ymresyment â’i gilydd gan ddywedyd, “Os dywedwn ‘O’r nef,’ fe ddywed, ‘Paham ynteu na chredasoch iddo?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreusant ddadlau 'i gilydd a dweud, "Os dywedwn, 'o'r nef', fe ddywed, 'Pam, ynteu, na chredasoch ef?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oeddynt yn ymresymu yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham na chredasoch iddo?