Mark 11:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepesant, ac y dywedesant wrth yr Iesu, Ny wyddam ni. A’r Iesu atepawð, ac a ðyuot wrthynt, Ac ny ðywedaf vi nef y chwi wrth pa awdurtat y gwnaf y pethae hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb i’r Iesu, dywedasant, Nis gwyddom. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd i chwi “Trwy ba awdurdod” y pethau hyn yr wyf yn eu gwneuthur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebasant yr Iesu, a dywedant, “Nis gwyddom.” A dywed yr Iesu wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant Iesu, "Ni wyddom ni ddim." Ac meddai Iesu wrthynt, "Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy, gan ateb yr Iesu a ddywedant, Ni wyddom ni. A'r Iesu a ddywed wrthynt hwythau, Ni ddywedaf finau i chwi ychwaith trwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.