Mark 11:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vvy aethant ymaith ac a gawsont ebawl yn rhwym wrth y drws o dd yallan, mewn cysswllt dwyfforð a’ ei dd illwng a wnaethant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aethant ymaith, a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth y drws, oddi allan, yn y groesffordd, a gollyngasant ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant ymaith, a chawsant ebol yn rhwym wrth ddrws allan ar yr heol; a gollyngant ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a'i gollyngasant ef yn rhydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly i ffwrdd â nhw, a dyna lle roedd yr ebol, allan yn y stryd wedi ei rwymo wrth ddrws. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant ebol wedi ei rwymo wrth y drws oddiallan, ar y brif‐heol, ac y maent yn ei ollwng ef yn rhydd.