Mark 11:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vvy dducsont yr ebol at yr Iesu, ac a vwriasont ei dillat arnaw, ac ef a eisteddawdd arno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daethant a’r ebol at yr Iesu, a bwriasant eu cochlau arno; ac eisteddodd Efe arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dygant yr ebol at yr Iesu, a bwriant arno’u dillad, ac eisteddodd yntau arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaethon nhw â'r ebol at Iesu dyma nhw'n taflu eu cotiau drosto, a dyma Iesu'n eistedd ar ei gefn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant 'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn dwyn yr ebol at yr Iesu, ac yn bwrw eu gwisgoedd uchaf arno; ac efe a eisteddodd arno.