Mark 11:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ llawer oedd a danasont ei dillat rhyd y ffordd: trychu o ereill gangae o’r preniae a’ ei tanu ar y ffordd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llawer a danasant eu cochlau ar y ffordd; ac eraill gangau, y rhai a dorrasant, o’r wlad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llawer a daenodd eu dillad ar y ffordd, ac eraill fanwydd a dorasent o’r meysydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u taenasant ar y ffordd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dechreuodd pobl daflu eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu ganghennau deiliog oedden nhw wedi eu torri o'r caeau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o'r meysydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llawer a daenasant eu gwisgoedd uchaf ar y ffordd; ac eraill haenau o'r brigau, y rhai a dorasant o'r meusydd.