Mark 12:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC ef a ddechreawdd ymadrawdd wrthynt ym-parabolae, gan ddyvvedyt, Yr oedd gwr a blannai winllan, ac a ei hamgylchynawdd a chae, ac a gloddiawð bwll y dd erbyn y gwin ac a adeilawdd dwr ynddi, ac ei llocawdd hi i dir‐ðiwylliawdwyr, ac aeth ymhel’ o y gartref.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dechreuodd lefaru wrthynt mewn damhegion. Gwinllan a blannodd dyn, a rhoddodd o’i hamgylch gae; a chloddiodd le i’r gwinwryf, ac adeiladodd dŵr, a gosododd hi allan i lafurwyr, ac aeth i wlad ddieithr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd dyn winllan; a chaeodd o’i hamgylch, a chloddiodd gain dan y gwinwryf, ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o'i hamgylch, ac a gloddiodd le i'r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n defnyddio straeon i ddarlunio beth roedd e eisiau'i ddweud, ac meddai wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. "Fe blannodd rhywun winllan, a chododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf, ac adeiladu tu373?r. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddechreuodd lefaru wrthynt mewn dammegion: Gwr a blanodd winllan, ac a ddododd gae o'i hamgylch, ac a gloddiodd win‐gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.