Mark 12:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wyn teu pan daethāt, a ðywedsant wrthaw, Athro, ys gwyddam mai cywir wyt, ac na ovely am neb un, ac ny d edrychy ar wyneb vverrh dynion, amyn yn-gwirioneð y dyscy yn’ ffordd Dduw, Ai cyfreithlawn rho dd i teyrnget i Caisar, ai ny d yvv?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod, dywedasant Wrtho, Athraw, gwyddom mai geirwir wyt, ac na waeth Genyt am neb, canys nid edrychi ar wyneb dynion, eithr mewn gwirionedd yr wyt yn dysgu ffordd Duw; Ai cyfreithlawn rhoi teyrnged i Cesar, ai nad yw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi dyfod, dywedant wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn ddidwyll, ac na waeth gennyt am neb; canys nid edrychi ar wyneb dynion, eithr mewn didwylledd y dysgi ffordd Duw: a ddylid rhoi treth i Gesar ai peidio? A rown hi, ai nis rhown?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau, pan ddaethant, a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlon rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n mynd ato a dweud, “Athro, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n onest. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Rwyt ti'n dysgu ffordd Duw, ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir. Felly dywed wrthon ni — Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant, ac meddent wrtho, "Athro, gwyddom dy fod yn ddiffuant, ac na waeth gennyt am neb; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant. A yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw? A ydym i dalu, neu beidio thalu?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi eu dyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Athraw, ni a wyddom dy fod di yn ddidwyll, ac nad wyt yn gofalu rhag neb; canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion; ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nid yw?