Mark 12:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy ei duc e sont, ac ef a ddyuot wrthynt, I bwy mae’r ddelw hon a’r argraph? wythe a ddywedsont wrthaw, I Caisar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dygwch i Mi ddenar, fel y gwelwyf hi. A hwy a’ i dygasant. A dywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw ’r ddelw hon, ac yr argraph? A hwy a ddywedasant Wrtho, Eiddo Cesar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dygasant hwythau un. Ac eb ef wrthynt, “Pwy bïau’r ddelw hon a’r argraff?” Dywedasant hwythau wrtho, “Cesar.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw'r ddelw hon a'r argraff? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n rhoi un iddo, a dyma Iesu'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?” “Cesar,” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daethant ag un, ac meddai ef wrthynt, "Llun ac arysgrif pwy sydd yma?" Dywedasant hwythau wrtho, "Cesar."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r darlleniad? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar.