Mark 12:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth y Sadducaieit ataw, (yr ei a ddyweit nad oes cyfodedigaeth) ac a ’ovynesont iddo, gan ddywedyt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth y Tsadwceaid Atto, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad; a gofynasant Iddo, gan ddywedyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daw Sadwceaid ato, rhai a ddywed nad oes atgyfodiad; a gofynnent iddo gan ddywedyd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Daeth y Sadwceaid hefyd ato, y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. (Dyma'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ato Sadwceaid, y bobl sy'n dweud nad oes dim atgyfodiad, a dechreusant ei holi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae Saduceaid yn dyfod ato, y rhai a ddywedant nad oes Adgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,