Mark 12:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Athro, Moysen a yscrivenodd y ni, A’s bydd marw brawdd vn, a’ gady ei wreic, ac eb ady plant, mai ei vrawdd a ddyly gymeryd ei wraic, a’ chyuodi had y’w vrawd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Athraw, Mosheh a ’sgrifenodd i ni, O bydd brawd neb farw, a gadu gwraig, ac heb adu plant, am gymmeryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd o honi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Athro, fe sgrifennodd Moses i ni, o bydd marw brawd neb, a gadael gwraig, a heb adael plentyn, cymered ei frawd y wraig, a choded had i’w frawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: ‘Os ydy dyn yn marw a gadael ei wraig heb blentyn, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Athro," meddent, "ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, 'Os bydd rhywun farw, a gadael gwraig, ond heb adael plentyn, y mae ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni, O fydd marw brawd neb, a gadael gwraig ar ei ol, ac heb adael plant, bydded i'w frawd gymmeryd ei wraig, a chodi hâd i'w frawd.