Mark 12:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar dymor, y d anvones ef was at y tir-ddiwylliawdwyr, val yd erbyniei ef y gan y tir‐ðiwylliawdwyr o ffrwyth y winllā.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A danfonodd at y llafurwyr, yn yr amser, was i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwythau’r winllan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac anfonodd at y llafurwyr, pan ddaeth yr amser, was, i gymryd gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl ei siâr o'r ffrwyth gan y tenantiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid i dderbyn ganddynt gyfran o ffrwyth y winllan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a anfonodd at y llafurwyr, yn y tymhor, ei was, fel y derbyniai oddiwrth y llafurwyr o ffrwythau y winllan.