Mark 12:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn y cyfodedigaeth gan hyny, pan ad gyuodant, gwraic y bwy ’n o naddynt vydd hi? can ys perchenogoð y saith y hi yn wraic?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn yr adgyfodiad, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig, canys y saith a’i cawsant hi yn wraig?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodant, i ba un ohonynt y bydd hi’n wraig? canys y saith a’i cafodd hi’n wraig.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr atgyfodiad gan hynny, pan atgyfodant, gwraig i ba un ohonynt fydd hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodant, gwraig prun ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn yr Adgyfodiad, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.