Mark 12:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’dd atepawdd yr Iesu ac y dyuot wrthynt, Any d am hyny yð ych yn myn d ar gyfeilorn, can na wyddoch yr Scrythurae, na meddiant Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd yr Iesu wrthynt, Onid o achos hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am na wyddoch yr ysgrythyrau na gallu Duw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai’r Iesu wrthynt, “Onid oherwydd hyn y cyfeiliornwch, na wyddoch na’r ysgrythyrau, na gallu Duw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau, na gallu Duw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Dych chi'n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi'n gwybod dim byd am allu Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrthynt, "Onid dyma achos eich cyfeiliorni, eich bod heb ddeall na'r Ysgrythurau na gallu Duw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ai nid o herwydd hyn yr ydych yn cyfeiliorni, sef, na wyddoch yr Ysgrythyrau, na gallu Duw?