Mark 12:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am y meirw, y cyvodir wy drachefn, an y ddarlle n esoch vvi yn llyuer Moysen, po’dd yn y merin llwyn y llavarawdd Duw wrthaw, gan ddywedyt, Mi yvv Duw Abraham, a’ Duw Isaac, a’ Duw Iaco b?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac am y meirw, yr adgyfodir hwynt, oni ddarllenasoch yn llyfr Mosheh, yn “Y Berth,” y modd y llefarodd Duw wrtho, gan ddywedyd, “Myfi wyf Dduw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond am y meirw, eu bod yn cyfodi, oni ddarllenasoch yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, pa fodd y llefarodd Duw wrtho gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bydd y meirw yn dod yn ôl yn fyw! — ydych chi ddim wedi darllen beth ysgrifennodd Moses? Yn yr hanes am y berth yn llosgi, dwedodd Duw wrtho, ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob’.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ynglu375?n bod y meirw yn codi, onid ydych wedi darllen yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, sut y dywedodd Duw wrtho, 'Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf'?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ynghylch y meirw, eu bod yn cael eu cyfodi, oni ddarllenasoch yn Llyfr Moses, yn yr adran am y Berth, y modd y llefarodd Duw wrtho, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob.