Mark 12:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth vn o’r Gwyr‐llen y clywsei wy yn ymddadlae, a’ chan wybot ddarvot iddo ei hatep yn dda, y gofynawdd yðaw, Pwy ’n yw’r gorchymyn cyntaf oll?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan ddyfod o un o’r ysgrifenyddion Atto, wedi clywed hwynt yn ymddadleu, a chan wybod mai da yr attebodd Efe iddynt, gofynodd Iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth ato un o’r ysgrifenyddion a’u clywsai hwynt yn dadleu, ac yn gwybod mai da’r atebasai hwynt gofynnodd iddo, “Pa un yw’r gorchymyn cyntaf oll?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un o'r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n gwrando arnyn nhw'n dadlau. Pan welodd fod Iesu wedi rhoi ateb da iddyn nhw, gofynnodd yntau gwestiwn iddo. “O'r holl orchmynion i gyd, pa un ydy'r pwysica?” gofynnodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth un o'r ysgrifenyddion ato, wedi eu clywed yn dadlau, ac yn gweld ei fod wedi eu hateb yn dda, a gofynnodd iddo, "Prun yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac un o'r Ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn cyd‐ymholi, a gweled iddo eu hateb yn dda, ac a ofynodd iddo, O ba natur yw y Gorchymyn Cyntaf o'r oll?