Mark 12:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a ei cymersont ef, ac ei bayddesont, ac ei d anvonesont ymaith yn wac.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ei ddal, baeddasant ef, a gyrrasant ef ymaith yn waglaw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’i ddal a wnaethant, a’i guro, a’i anfon ymaith yn waglaw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a'i daliasant ef, ac a'i baeddasant, ac a'i gyrasant ymaith yn waglaw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gwas, ei guro a'i anfon i ffwrdd heb ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daliasant hwythau ef, a'i guro, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a'i daliasant, ac a'i curasant, ac a'i danfonasant ymaith yn wag.