Mark 12:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ei gary ef a’r oll galon, ac a’r oll ddyall, ac a’r oll enait, ac ar oll nerth, a’ chary ei gymydawc mal y un, ’sy vwy nag oll boeth‐offrymae ac aberthae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nad oes arall ond Efe: ac Ei garu Ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall ac â’r holl nerth; a charu ei gymmydog fel ef ei hun, llawer iawn mwy yw na’r holl losgoffrymmau ac aberthau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a bod ei garu â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl nerth, a charu’r cymydog fel ei hun, yn fwy na’r holl boeth-offrymau ac aberthau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na'r holl boethoffrymau a'r aberthau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ei garu fe â'r holl galon, ac â'r holl feddwl ac â'r holl nerth sydd ynon ni sy'n bwysig, a charu cymydog fel dŷn ni'n caru'n hunain. Mae hyn yn bwysicach na'r aberthau llosg a'r offrymau i gyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac y mae ei garu ef 'r holl galon ac 'r holl ddeall ac 'r holl nerth, a charu dy gymydog fel ti dy hun, yn rhagorach na'r holl boethoffrymau a'r aberthau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu y cymydog fel efe ei hun, sydd lawer amgenach na'r holl boeth‐offrymau cyfain ac aberthau.