Mark 12:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr Iesu yn ei weled ef yn atep yn ddisseml, a ddyvot wrthaw, Ny d wyt yn e pell ywrth teyrnas Duw. Ac ny veiddiawdd nep mwy ach ymovyn ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu, gan weled mai yn synhwyrol yr attebodd efe, a ddywedodd wrtho, Nid pell yr wyt oddiwrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb, ddim mwyach, ymofyn ag Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r Iesu’n gweled mai synhwyrol yr atebodd, a ddywedodd wrtho, “Nid wyt ti bell oddiwrth deyrnas Dduw.” Ac ni feiddiai neb mwyach ei holi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n gweld oddi wrth ei ymateb ei fod wedi deall, a dwedodd wrtho, “Dwyt ti ddim yn bell iawn o deyrnas Dduw.” O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd Iesu ei fod wedi ateb yn feddylgar, dywedodd wrtho, "Nid wyt ymhell oddi wrth deyrnas Dduw." Ac ni feiddiai neb ei holi ddim mwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddiwrth Deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb o hyn allan osod gofyniadau iddo.