Mark 12:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a atepawdd ac a ddyuot gan ei dyscy yn y Templ, Pavodd y dywait y Gwyr‐llen pan yvv bot Christ yn vap i D d auid?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, pan yn dysgu yn y deml, Pa fodd y dywaid yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd yr Iesu, ac meddai, wrth ddysgu yn y deml, “Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod y Crist yn fab Dafydd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Iesu wrthi'n dysgu yng nghwrt y deml, gofynnodd, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, "Sut y mae'r ysgrifenyddion yn gallu dweud bod y Meseia yn Fab Dafydd?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, pan yn dysgu yn y Deml, Pa fodd y dywed yr Ysgrifenyddion fod y Crist yn fab Dafydd?