Mark 12:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Dauid y un a ðyuot trwy’r yspryt, glan, Dyuot yr Arglwyð wrth vy Arglwydd i, Eistedd ar vym d eheu lavv i, yd pan ’osotwyf dy elynion yn droedfainc yty.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dafydd ei hun a ddywaid trwy yr Yspryd Glân, “Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw, Hyd oni osodwyf Dy elynion yn faingc i’th draed.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion dan dy draed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy'r Ysbryd Glân, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dafydd ei hun ddwedodd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd ei hun, trwy'r Ysbryd Gln: 'Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed."'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dafydd ei hun a ddywedodd yn yr Yspryd Glân:— Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion Yn droedfainc i'th draed.