Mark 12:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can vot Dauid y hun yn y ’alw ef yn Arglwydd: a’ pha wedd y mae ynt ef yn vap iddaw? a’ llawer o bopul y clypu ef yn ewyllysgar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dafydd a’i geilw “yn Arglwydd;” a pha sut mai Mab iddo yw? A’r dyrfa fawr a’i clywodd Ef gydag hyfrydwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dafydd ei hun a’i geilw ef yn Arglwydd, ac o ba le y mae’n fab iddo?” A’r lliaws mawr oedd hoff ganddynt wrando arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a'i gwrandawent ef yn ewyllysgar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛! Felly, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?” Roedd yno dyrfa fawr wrth eu boddau yn gwrando arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Dafydd ei hun yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?" Yr oedd y dyrfa fawr yn gwrando arno'n llawen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Dafydd ei hun yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A'r dyrfa fawr a'i gwrandawent ef gydâ blas.