Mark 12:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thrachefyn yd anuones atynt was arall, a ’hwnw a davlasant a’ main, ac ai vriwesont ei ben, ac ei d anvonesōt ymaith wedy ei am p erchi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A danfonodd trachefn attynt was arall; a hwnw, yr archollasant ei ben iddo, ac a’i dianrhydeddasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrachefn anfonodd atynt was arall; a hwnnw a archollasant yn ei ben, ac a amharchasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a'i gyrasant ymaith yn amharchus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n cam-drin hwnnw a'i anafu ar ei ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd drachefn was arall atynt; trawsant hwnnw ar ei ben a'i amharchu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall, a hwy a archollasant ei ben, ac a'i anmharchasant.